Cynadleddau

Croeso i Lanberis

Dewch i weithio ac i gyfarfod mewn lleoliad heb ei ail yn Amgueddfa Lechi Cymru.

Cysylltwch a ni

Ystafelloedd Cyfarfod a Chyflwyno

Mae gennym nifer o ystafelloedd sydd ar gael i'w llogi ar gyfer cyfarfodydd, cyflwyniadau neu ddiwrnodau hyfforddiant.

Siaradwch â ni am beth hoffech chi ei wneud yma.

Bwyd a Diod

Mae caffi'r amgueddfa, Caffi Ffowntan, sy'n darparu bwyd poeth, byrbrydau a diodydd, ar agor trwy'r dydd.

Gall ein gwasanaeth arlwyo gyflenwi bwyd bys-a-bawd neu luniaeth i weddu i amserlen eich digwyddiad chi.

Croeso i Bawb

Os ydych chi'n grwp cymunedol, yn elusen gofrestredig, gorff addysg ffurfiol neu'n rhan o Lywodraeth Cymru, cewch logi stafell am ddiwrnod am bris gostyngedig.

Cysylltwch â ni i weld sut allwn ni eich helpu.