Uchafbwyntiau

Gwybodaeth i ymwelwyr

Os ydych chi'n ystyried ymweld â ni heddiw ac yr hoffech brofi'r daith danddaearol, ffoniwch ni ar 029 2057 3650 i wirio argaeledd.

Y Taith Dan Ddaear:

Rhwng 21 Gorffennaf a 31 Awst 2024 bydd yn RHAID prynu tocynnau ar gyfer y Daith Dan Ddaear unigryw gyda thocyn Job-A-Mas £8 gyda slot amser i bob person, NEU docyn £5 ar y diwrnod sydd â niferoedd cyfyngedig a ddim yn gwarantu slot amser ac efallai bydd yn rhaid i chi aros am gyfnod, yn enwedig yn ystod cyfnodau prysur.

Y tu allan i'r cyfnod hwn mae tocynnau Job-A-Knock ar gael i'w prynu NEU, gallwch barhau i gael mynediad i'r Daith Dan Ddaear am ddim, ond efallai y bydd yn rhaid i chi aros am gyfnod, yn enwedig yn ystod cyfnodau prysur.

Mae mynediad i'r Amgueddfa yn parhau i fod yn rhad ac am ddim. 
 

Gwir Brofiad Dan Ddaear - Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Pwll glo go iawn yw Big Pit, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

Gyda chyfleusterau i addysgu a diddanu pobl o bob oedran, mae Big Pit yn cynnig diwrnod cyffrous ac addysgiadol i'r teulu cyfan.

Mwynhewch daith aml-gyfrwng gyffrous o gwmpas pwll glo modern gyda rhith-löwr yn Orielau Glofaol, arddangosfeydd yn y Baddonau Pen Pwll ac Adeiladau lofa hanesyddol.

Orielau Glofaol Baddonau Pen Pwll Adeiladau lofa hanesyddol

Hyn oll, a'r Taith dan ddaear fyd-enwog. Teithiwch 300tr lawr i grombil y ddaear gyda glöwr go iawn i weld sut beth oedd bywyd i'r miloedd o ddynion oedd yn gweithio yn y pyllau glo.

Taith dan ddaear

Lleolir yr Amgueddfa yn nhirwedd ddiwydiannol unigryw, a ddyfarnwyd yn Safle Treftadaeth Byd gan UNESCO ym 2000 i gydnabod pwysigrwydd ei chyfraniad rhyngwladol i'r broses ddiwydiannu trwy gynhyrchu haearn a glo. 

Mae gan Big Pit statws anchor point ar yr European Route of Industrial Heritage. Mae'r llwybr yn cynnwys 850 o safleoedd dros 32 o wledydd ac mae'n ffordd wych o ddysgu mwy am hanes diwydiannol amrywiol ar draws y cyfandir.

Mae Big Pit yn atgof byw o'r diwydiant glo yng Nghymru a'r bobl a'r gymdeithas a grëwyd yn ei sgil.

Ymweld yr Amgueddfa

Digwyddiadau yn Big Pit

Eich Ymweliad