Profiad Gwaith

Mae cofrestru bellach ar gau ar gyfer cyfleoedd profiad gwaith haf 2024. Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon gyda chyfleoedd yn y dyfodol.

Ydych chi’n fyfyriwr Chweched Dosbarth sydd â diddordeb mewn hanes a threftadaeth? Ydych chi eisiau darganfod pa fath o swyddi neu yrfaoedd sydd ar gael mewn amgueddfeydd?

Eleni byddwn yn treialu profiad gwaith ar gyfer fyfyriwr chweched dosbarth (blwyddyn 12) yn:

  • Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis i 2-3 fyfyriwr.
  • Amgueddfa Lleng Rufeining, Caerllion i 2-3 fyfyriwr.

Byddwn yn cynnig wythnos o brofiad gwaith tua'r drydedd wythnos yng Ngorffennaf. Bydd disgwyl i chi deithio i’r Amgueddfa yn annibynnol, er efallai bydd modd i ni rhoi cymhorthdal tuag at gostau bws.


Rydym yn chwilio am fyfyrwyr chweched dosbarth gyda:

  • Diddordeb mewn hanes Cymru, yn enwedig mewn perthynas â'ch amgueddfa ddewisol.
  • Parodrwydd i gymryd rhan.
  • Parodrwydd i ddysgu a datblygu sgiliau newydd.

Beth allwch chi ennill o’r rôl?

Cewch gyfle i dreulio amser gyda gwahanol adrannau, er enghraifft yn cysgodi ein timau gofal cwsmeriaid, ein hadran addysg, neu drwy weithio tu ôl i’r llenni gyda’r adran farchnata neu ein curaduron. Bydd pob diwrnod yn wahanol, a byddwch yn darganfod mwy am weithrediadau’r Amgueddfa. Byddwch chi’n helpu gyda thasgau fel:

  • Croesawu a chynorthwyo ymwelwyr.
  • Ysgrifennu cynnwys marchnata, fel blogiau neu erthyglau.
  • Ymchwil cyfrifiadurol neu fewnbynnu data.
  • Helpu paratoi ar gyfer gweithgareddau addysg.
  • Stocio silffoedd yn y siop.
  • Cadwraeth neu lanhau casgliadau.

Sut i wneud cais?

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru oedd 25 Mawrth 2024. Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon gyda chyfleoedd profiad gwaith yn y dyfodol.