Cwrs: Tyfwch Ardd Flodau a Chreu Tusw Blodau Sych
Cwrs yn rhoi cyflwyniad ar ddewis y blodau a’r gwair addurnol gorau i’w sychu, a’r ffordd orau i’w tyfu. Dysgwch sut i sychu blodau yn naturiol, a chael cyfle i gynaeafu planhigion sy’n cael eu tyfu’n gynaliadwy yng ngardd Castell Sain Ffagan. Arweinydd y cwrs yw Luciana, Cadwraethydd Gerddi yn Sain Ffagan, fydd yn dangos i chi sut i drefnu blodau sych yn dusw prydferth i fynd adref gyda chi.
Cynhelir y cwrs yng ngardd Castell Sain Ffagan a Gweithdy. Mae’r ardd a Gweithdy ryw 10 munud ar droed o’r Brif Fynedfa, mewn dau gyfeiriad gwahanol. Mae pris y cwrs yn cynnwys unrhyw ddeunyddiau.
Mae croeso i chi ddod â phecyn bwyd neu ymweld â'n bwytai a chaffis ar y safle. Gallwn gynnig gostyngiad o 10% yn ein bwytai a chaffis* i ddeiliaid tocyn cwrs *(heblaw am Bopty Derwen)
Mae pris y cwrs yn cynnwys parcio. Bydd y tîm tocynnau yn cysylltu â chi gyda manylion drwy'r e-bost a ddarparwyd wrth archebu.
Cod post llywio â lloeren – CF5 6XB
Rhaid prynu pob tocyn ar gyfer y digwyddiad hwn ymlaen llaw.
Iaith: Cynhelir y cwrs drwy iaith cyntaf yr hwylusydd - sef Saesneg
Gostyngiad: Myfyrwyr gyda cherdyn NUS, pobl sy’n derbyn budd-daliadau. Pobl dros 60 oed a dan 18* (rhaid i blant 16–18 fod yng nghwmni oedolyn sy’n cymryd rhan).
Hygyrchedd: Mae rhai o ofodau dysgu’r Amgueddfa 5 munud ar droed o’r prif adeilad a’r maes parcio – cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk cyn archebu i drafod anghenion hygyrchedd.
Telerau ac amodau: Mae'r telerau ac amodau ar gyfer ein cyrsiau ar gael i'ch ystyried fan hyn.
Drwy archebu lle ar ein cyrsiau, rydych chi'n ein cefnogi ni i adrodd stori Cymru er mwyn ysbrydoli pawb. Diolch o galon.